Fest-noz

Dawns Fest Noz

Gŵyl draddodiadol Lydewig yw'r Fest-Noz (Llydaweg: 'gŵyl nos', sillefir weithiau fel Fest Noz), gyda dawnsio mewn grwpiau a cherddorion byw yn chwarae offerynnau acwstig, fel rheol, ond nid yn unig, offerynnau traddodiadal Llydaw. Lluosog Fest Noz yw 'festoù noz', er bod y "Ar C'hoarezed Goadeg" (Y Chwiorydd Goadeg' - teulu o gantorion traddodiadol o Trefrin) yn arfer dweud "festnozoù".

Er ei bod yn rhy hawdd i ddileu'r fest nozou a fêtes folkloriques fel dyfeisiadau modern, mae'r rhan fwyaf o ddawnsiau traddodiadol y Fest Noz yn hen, rhai yn dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol, gan ddarparu ffordd i'r gymuned ddeall ei yn y gorffennol ac yn ymhyfrydu mewn ymdeimlad dwfn o fod gyda hynafiaid a lle.[1]

Ar 5 Rhagfyr 2012, ychwanegwyd y fest-noz gan UNESCO at Restr Cynrychiolwyr Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y Ddynoliaeth.[2]

  1. Cunliffe, Barry W. (2003). The Celts: a very short introduction. Oxford UP. t. 135. ISBN 978-0-19-280418-1.
  2. UNESCO - Intangible Heritage Section. "UNESCO Culture Sector - Intangible Heritage - 2003 Convention :". unesco.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-26. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Fest-noz

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne