Ffrio

Ffrio toesenni.

Coginio bwyd mewn braster neu olew poeth yw ffrio.[1][2] Y ddwy brif dechneg yw ffrio mewn padell fas dros dân, a ffrio mewn llestr dwfn gan drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew poeth. Gan y defnyddir saim i wresogi'r bwyd, mae rhai yn ei hystyried yn dechneg o goginio sy'n defnyddio gwres sych.[3]

Caiff cigoedd brasterog megis bacwn a chig eidion mâl eu ffrio gan amlaf mewn eu toddion. Yn aml dodir cig gyda llai o fraster, pysgod, a llysiau mewn blawd neu gytew cyn eu ffrio. Yn ogystal â'r brasterau traddodiadol – toddion cig eidion, menyn a bloneg – defnyddir hefyd olewon corn, cnau a hadau i ffrio.[3]

  1. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 102.
  2.  ffrio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) frying. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.

Ffrio

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne