Cymeriad yn y gyfres manga ac anime Naruto yw Gaara (我愛羅 - Japaneg). Crëwyd gan Masashi Kishimoto. Mae'n cyferbynnu gyda'r prif gymeriad, Naruto Uzumaki. Magwyd y ddau mewn amgylchiadau tebyg, ond maent wedi datblygu personoliaethau gwahanol wrth ddelio gyda plentyndod caled. Cyflwynwyd yn wreiddiol fel gelyn i Naruto, ond maent yn dod yn ffrindiau da wrth i'r gyfres barhau.