Enghraifft o'r canlynol | Islamic term |
---|---|
Math | Pregeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr enw Arabeg am bregeth yn y traddodiad Islamaidd yw khutba (خطبة khutbah). Traddodir khutba o flaen gweddïau dydd Gwener mewn mosgiau ac yn ystod gŵyl fawr Eid ul-Fitr ar ddiwedd Ramadan. Ceir khutba fawr bob blwyddyn yn rhan o bererindod yr Hajj, ar wastadeddau Arafat, tu allan i ddinas sanctaidd Mecca.