![]() | |
Enghraifft o: | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | disaccharide ![]() |
Màs | 342.116 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₁₂h₂₂o₁₁ ![]() |
Enw WHO | Lactulose ![]() |
Clefydau i'w trin | Hepatic coma, rhwymedd, hepatic encephalopathy, rhwymedd ![]() |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america b ![]() |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen ![]() |
![]() |
Mae lactwlos yn siwgr na ellir ei amsugno sy’n cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd ac enseffalopathi hepatig.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₂H₂₂O₁₁. Fe'i gweinir trwy'r gen ar gyfer rhwymedd a naill ai trwy'r gen neu'r rectwm ar gyfer enseffalopathi hepatig. Yn gyffredinol, mae'n dechrau gweithio ar ôl wyth i undeg dau awr, ond gall gymryd hyd at ddau ddiwrnod i wella'r rhwymedd. Mae ar gael dros y cownter heb ragnodyn. Mae ar gael fel cyffur generig neu efo'r enwau brand Duphalac a Lactugal[2]. Mae'r feddyginiaeth ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.