Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.842608°N 4.095943°W ![]() |
![]() | |
Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Penrhiw-goch (hefyd: Penrhiwgoch). Fe'i lleolir ar groesffordd wledig yn nwyrain canolbarth y sir tua 4 milltir i'r gogledd o bentref Cross Hands. Y pentref agosaf yw Maes-y-bont, tua milltir a hanner i'r de.
Ceir capel y Bedyddwyr yn y pentref a sefydlwyd yn chwarter cyntaf y 19g.[1]