Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Plattenbau

Plattenbau
Enghraifft o'r canlynolarchitectural technology Edit this on Wikidata
Mathpanel building Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhandy safonol Dwyrain yr Almaen Gomiwnyddol (teip WBS 70/6)
Panelák Český Těšín, Gweriniaeth Tsiec
Paneelmaja yn Lasnamäe, Tallinn, Estland

Mae Plattenbau (lluosog: Plattenbauten, Almaeneg: Platte + Bau, llyth. 'panel/slab' + 'adeilad/adeiladu') yn adeilad sydd wedi'i adeiladu o slabiau concrit mawr, parod. Mae'r gair yn gyfansoddyn o Platte (yn y cyd-destun hwn: panel) a Bau (adeilad). Mae adeiladau o'r fath i'w cael yn aml mewn ardaloedd datblygu tai ac yn ffordd rhad ac effeithiol o adeiladu rhandai parod

Er bod adeiladau Plattenbau yn aml yn cael ei ystyried yn nodweddiadol o Ddwyrain yr Almaen a gwledydd comiwnyddol yr 20g, defnyddiwyd y dull adeiladu parod yn helaeth yng Ngorllewin yr Almaen ac mewn mannau eraill, yn enwedig mewn tai cyhoeddus a rhandai cyhoeddus yn arbennig. Yn Saesneg, gelwir y dull adeiladu hefyd yn adeiladu system panel mawr, wedi'i fyrhau'n "LPS".


Previous Page Next Page