Enghraifft o: | term, enw ![]() |
---|---|
Math | Iddewon, Israeliaid ![]() |
Mamiaith | Hebraeg ![]() |
Poblogaeth | 4,201,000 ![]() |
Rhan o | Iddewon ![]() |
Iaith | Hebraeg ![]() |
Enw brodorol | צבר ![]() |
![]() |
Mae'r term sabra neu tsabra mewn trawslythreniad mewn ieithoedd eraill (o'r Hebraeg צַבָּר tzabar)[1] yn dynodi'r poblogaethau Iddewig a anwyd cyn 1948 yn Israel, a elwid bryd hynny fel Palestina dan Fandad Gwlad Israel (Eretz Israel) neu'r Wlad Sanctaidd , a'u disgynyddion ymhlith y boblogaeth Israel bresennol. Trwy estyniad, mae'r term yn cyfeirio at bawb a anwyd yn ngwladwriaeth Israel a'i thiriogaethau hawliedig (Israel heddiw, Palesteina, Llain Gaza, y Lan Orllewinol, a Jerwsalem). Mae rhai hefyd yn ychwanegu tiriogaethau Penrhyn Sinai a Ucheldiroedd Golan.[2][3]
Daw'r gair o'r Hebraeg tzabar [3] (enw'r cactws opuntia), mewn cyfeiriad ffigurol at ddycnwch a chymeriad pigog y planhigyn anialwch hwn, sy'n cuddio tu mewn tyner a blas melys.