![]() | |
Math | municipality of Tunisia, Imada ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 44,672 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nabeul, delegation of Soliman ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 36.695126°N 10.491257°E ![]() |
Cod post | 8020 ![]() |
![]() | |
Mae Soliman neu Slimane yn dref ger yr arfordir yn Nhiwnisia a leolir yn ne-orllewin Cap Bon (45 km au i'r de-ddwyrain o Diwnis).
Mae'n rhan o dalaith (gouvernorat) Nabeul, ac mae'n ganolfan i ardal (délégation) o 41,846 o bobl (2006) a bwrdeisdref o 29,060.
Mae Soliman yn gorwedd yng nghanol gwastadedd ffrwythlon, ac mae'n ganolfan masnachu cynnyrch y tir amethyddol oddi amgylch. Yn ogystal mae'n ganolfan diwydiannol gyda ffatrioedd sy'n cynyrchu rhannau ceir a deunydd gwaith adeiladu. Mae'n groesffordd bwysig gyda nifer o wasanethau bws yn rhedeg ohoni.
Pum cilometr i'r gogledd ceir traeth atyniadol, ar lan Gwlff Tiwnis, sy'n cynnig golygfeydd hardd.
Cafodd y dref ei sefydlu, at ddechrau'r 16g, gan filwyr Twrcaidd pan fu Tiwnisia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i henwir ar ôl tirfeddianwr Tyrcaidd lleol (Soliman/Slimane = 'Solomon/Selyf'). Ychwanegwyd at ei hetifeddiaeth gan mewnfudwyr o Andalucía, Sbaen, a elwir yn Forisgiaid.