Cwmwd yng ngogledd-orllewin Môn oedd cwmwd Talybolion (amrywiad : Talebolion). Roedd yn un o ddau gwmwd cantref Cemais, yn gorwedd i'r gorllewin i'r cwmwd arall, Twrcelyn.
Roedd y cwmwd yn cynnwys rhan ogleddol Ynys Gybi (gyda Chaergybi yn ganolfan). Ar dir mawr Môn ffiniai â chwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw, i'r de, ac â chwmwd Twrcelyn i'r dwyrain. Maenor Cemais (Porth Wygyr ger Cemaes heddiw, efallai) oedd safle llys y cwmwd, a oedd yn ogystal yn brif lys i'r cantref.