Duw taranau ym mytholeg y Celtiaid oedd Taranis (Proto-Gelteg: *Toranos, *Tonaros yn gynt; Lladin: Taranus, Tanarus yn gynt), a addolwyd yn bennaf yng Ngâl ac yn Hispania ond hefyd mewn rhanbarthau'r Rheindir ac Afon Donaw. Soniodd y bardd Rhufeinig Lucan am Daranis, ynghyd ag Esos a Toutatis, yn ei gerdd epig Pharsalia fel duwiau Celtaidd y gwnaed offrymau aberthol dynol iddynt. Cysylltwyd Taranis, yn ogystal â'r Cyclops Brontes ("taran") ym mytholeg Roeg, â'r olwyn.
Y mae llawer o ddarluniau o dduw barfog â tharanfollt yn y naill law ac olwyn yn y llall wedi eu canfod o Gâl, lle mae'n debyg y daeth y duw hwn i gael ei gyfuno â'r duw Rhufeinig Iau.[1]