Thalasotherapi (o'r gair Groeg thalassa, sy'n golygu "môr") yw'r defnydd o ddŵr y môr fel ffurf o therapi.[1] Mae'n seiliedig ar ddefnydd systematig o ddŵr y môr, cynnyrch y môr, a hinsawdd y glannau.[2] Credir bod nodweddion dŵr y môr yn cael effaith llesol ar groendyllau.
Mae rhai yn honni mai yn nhrefi glan môr Llydaw y cafodd thalasotherapi ei ddatblygu yn ystod y 19g.[3] Roedd Dr Richard Russell[4][5][6] yn un o hyrwyddwyr y therapi ac mae poblogrwydd glan y môr yn ail hanner y 18g wedi'i briodoli, yn rhannol o leiaf, iddo ef.[7][8] Yn Póvoa de Varzim, Portiwgal, ardal sy'n cael ei hadnabod am ei lefel uchel o ïodin oherwydd y coedwigoedd gwymon a niwl cyson, ceir cofnod o bobl yn mynd yno am resymau meddygol ers 1725 ac mai'r mynachod Benedictaidd a'i cychwynnodd, a bod ffermwyr wedi dilyn yn fuan wedyn. Agorwyd baddondai cyhoeddus gyda dŵr môr cynnes ynddynt yn ystod y 19g.[9] Mae eraill yn honni bod thalasotherapi yn hŷn o lawer ac yn gallu cael ei olrhain yn ôl i'r henfyd. Roedd y Rhufeiniaid yn gredwyr mawr yn rhinweddau thalasotherapi.[2]
Mewn thalasotherapi, credir bod y magnesiwm, potasiwm, calsiwm, sodiwm, ac ïodid yn nŵr y môr yn cael ei amsugno trwy'r croen. Nid yw effeithiolrwydd y dull hwn o therapi wedi'i dderbyn yn eang am nad yw wedi'i brofi'n wyddonol. Defnyddir y therapi mewn amryw o ffyrdd, naill ai fel cawodydd o ddŵr môr cynnes, neu gyda mwd o'r môr neu bast gwymon, neu anadlu niwl y môr. Mae ffynhonfeydd yn creu dŵr môr cynnes ac yn darparu gwasanaethau gosod mwd neu wymon. Mae'r math hwn o therapi yn boblogaidd yn ardal y Môr Marw.