Math o gyfrwng | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 258.064057 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₃h₁₀n₂o₄ |
Enw WHO | Thalidomide |
Clefydau i'w trin | Dwythell gaslu carsinoma, gwahanglwyf, clefyd graft-versus-host, crydcymalau gwynegol, anorecsia, myeloma cyfansawdd, clefyd letterer–siwe, clefyd behcet, aphthous stomatitis, macroglobulinemia, colitis crohn, amyloidosis, y gwahanglwyf gwahanglwyfus, neurodermatitis, waldenström macroglobulinemia, syndrom myelodysplastig, cutaneous lupus erythematosus, pyoderma gangrenosum, myeloffibrosis, myeloma cyfansawdd |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia x, categori beichiogrwydd unol daleithiau america x |
Label brodorol | Thalidomide |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, carbon |
Enw brodorol | Thalidomide |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Moddion yw Thalidomid, sy'n dawelydd-hypnotig a myeloma lluosol. Mae'n deratogen cryf mewn cwningod a phrimasiaid gan gynnwys dynolryw, gan achosi namau genedigaeth difrifol os gymerir y cyffur yn ystod beichiogrwydd.
Gwerthwyd Thalidomid mewn amryw o wledydd yn fyd-eang o 1957 hyd 1961 pan dynnwyd o'r farchnad wedi iddo gael ei ganfod i achosi namau genedigaeth. Mae hyn wedi cael ei ddisgrifio fel un o'r "trasiedïau meddygol mwyaf yn yr oes fodern".[1] Ni wyddir yn union faint o bobl a effeithwyd gan y cyffur yn fyd-eang, ond mae'r amcangyfrifiadau rhwng 10,000 a 20,000,[2] gyda tua 400 yn y Deyrnas Unedig.[3]
Ers hynny, mae Thalidomide wedi cael ei ganfod i fod yn driniaeth gwerthfawr ar gyfer nifer o gyflyrau meddygol ac mae unwaith eto yn cael ei ddarnodi mewn nifer o wledydd, er fod defnydd y cyffur yn parhau i fod yn ddadleuol.[4][5] Arweiniodd trasiedi Thalidomide tuag at arbrofi llymach ar gyfer cyffuriau a phlaladdwyr cyn y caent eu trwyddedu.[6]