Welwitschia | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Dosbarth: | |
Urdd: | Welwitschiales |
Teulu: | Welwitschiaceae |
Genws: | Welwitschia |
Rhywogaeth: | mirabilis |
Welwitschia's range. | |
Cyfystyron[2] | |
|
Mae Welwitschia yn genws monotypig[3] (hynny yw, genws sy'n cynnwys un rhywogaeth gydnabyddedig) o noeth-hadog[4] (gymnosperm), a'r unig rywogaeth a ddisgrifir yw'r Welwitschia mirabilis' nodedig, sy'n endemig i anialwch Namib yn Namibia ac Angola. Welwitschia yw'r unig genws byw o'r teulu Welwitschiaceae ac urdd Welwitschiales yn yr adran Gnetophyta, ac mae'n un o dri genera byw yn Gnetophyta, ochr yn ochr â Gnetum ac Ephedra. Mae ffynonellau anffurfiol yn aml yn cyfeirio at y planhigyn fel "ffosil byw".[5][6]
Enwir Welwitschia ar ôl y botanegydd a’r meddyg o Awstria, Friedrich Welwitsch, a ddisgrifiodd y planhigyn yn Angola ym 1859. Cafodd Welwitsch ei lethu gymaint gan y planhigyn fel na allai "wneud dim ond penlinio... a syllu arno, hanner mewn ofn rhag iddo'i gyffwrdd a sylweddoli mai dim ond ffrwyth ei ddychymyg oedd y planhigyn, wedi'r cwbwl." [7][8] Disgrifiodd Joseph Dalton Hooker o Gymdeithas Linnean Llundain y rhywogaeth, gan ddefnyddio disgrifiad Welwitsch, casglu deunydd a lluniau gan yr arlunydd Thomas Baines a oedd wedi cofnodi'r planhigyn yn annibynnol yn Namibia.[9][10]