Enghraifft o: | Christian mission, sefydliad rhyngwladol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 6 Mehefin 1844 |
Sylfaenydd | George Williams (YMCA) |
Aelod o'r canlynol | Fforwm Ieuenctid Ewropeaidd |
Isgwmni/au | YMCA Vivekananda Road, YMCA, Chowringhee |
Pencadlys | Genefa |
Gwefan | https://www.ymca.int/, https://www.ymcagta.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydliad Cristnogol eciwmenaidd yw'r YMCA (Young Men's Christian Association) a'i nod yw darparu cefnogaeth i ddynion ifanc a'u gweithgareddau. Talfyrir enw'r sefydliad i the Y mewn rhai rhanbarthau, er nid ym Mhrydain. Mae pencadlys y mudiad yn ninas Genefa, Swistir, a bu i 64 miliwn o bobl fanteisio ar ei rwydwaith ar draw 120 gwladwriaeth.[1]
Mae pob YMCA rhanbarthol yn rheoli ei staff a'i gyllid ei hun. Ar lefel genedlaethol, mae'r YMCA rhanbarthol yn ymwneud yn bennaf â strategaeth a chyfeiriad cyffredinol - mae'r sefydliad yn wirioneddol gymunedol ac wedi'i staffio neu ei gefnogi gan wirfoddolwyr a gweithwyr lleol.
Mewn llawer o ranbarthau, ar hyn o bryd, bron dim ond cymuned o ganolfannau chwaraeon yw'r YMCAs lleol, nad oes ganddynt lawer i'w wneud â gwreiddiau crefyddol.