Math o gyfrwng | standard variety, amrywiolyn iaith |
---|---|
Math | Eastern Herzegovinian |
Enw brodorol | bosanski jezik |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | bs |
cod ISO 639-2 | bos |
cod ISO 639-3 | bos |
Gwladwriaeth | Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Montenegro, Twrci |
System ysgrifennu | Gaj's Latin alphabet |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith a siaredir ym Mosnia a Hertsegofina a rhai gwledydd cyfagos yw Bosneg[1] (bosanski jezik / босански језик). Mae'n iaith swyddogol ym Mosnia a Hertsegofina, a cheir siaradwyr mewn rhai gwledydd eraill, gyda tua 5,500,000 o siaradwyr i gyd.
Mae Bosneg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonaidd a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg a Serbeg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosneg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosneg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.