![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Crucornau ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9029°N 3.0203°W ![]() |
Cod OS | SO299232 ![]() |
Cod post | NP7 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Crucornau, Sir Fynwy, Cymru, yw Cwm-iou[1] (Saesneg: Cwmyoy).[2] Fe'i lleolir filltir i'r gorllewin o'r Pandy yng ngogledd-orllewin eithaf y sir ar ffordd fynydd sy'n arwain i fyny cwm hir Dyffryn Ewias i ardal Capel-y-ffin a thros Fwlch yr Efengyl i'r Gelli Gandryll.
Gorwedd y pentref ar lan Afon Honddu. Rhai milltiroedd yn uwch i fyny'r cwm ceir Llanddewi Nant Hodni lle ceir adfeilion abaty canoloesol.
Roedd y Gymraeg yn parhau ar wefusau trigolion yr ardal mor ddiweddar â c.1890.[3]