Adar golfanaidd | |
---|---|
Aderyn y To (Passer domesticus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Is-ddosbarth: | |
Inffradosbarth: | |
Uwchurdd: | Neoaves |
Urdd: | Passeriformes Linnaeus, 1758 |
Teiprywogaeth | |
Fringilla domestica Linnaeus, 1758 | |
Is-urddau | |
Yr urdd fwyaf o adar yw'r Passeriformes (adar golfanaidd neu adar clwydol). Mae bron 6000 o rywogaethau[1] a geir ledled y byd yn perthyn iddi gyda'r amrywiaeth fwyaf mewn rhanbarthau trofannol. Mae ganddynt draed wedi'u haddasu ar gyfer clwydo ac mae strwythur eu chwarren wropygiol (uropygial gland) a'u sberm yn unigryw.[2] Mae gan y grŵp mwyaf o rywogaethau (yr adar cân) gyhyrau cymhleth er mwyn rheoli eu syrincs a ddefnyddir i ganu.