Enw planhigyn a gyfeiria at ambell gyltifar o wrd yw pwmpen, gan amlaf y rheiny o Cucurbita pepo, sydd yn grwn, llyfn ac â chroen braidd yn asennog o liw sydd yn amrwyio rhwng melyn dwfn ac oren. Mae pwmpenni, ynghyd â'r gwrd, yn gynhenid i Ogledd America.[1] Fe'u tyfir yn helaeth yno ar gyfer defnydd masnachol, a chânt eu defnyddio yn ogystal mewn coginio ac at ddibenion adloniadol. Mae pastai bwmpen, er enghraifft, yn draddodiadol yn rhan o brydau Diwrnod Diolchgarwch yn yr UDA. Caiff pwmpenni eu cerfio yn jaclantars adeg Gŵyl Calan Gaeaf trwy'r Byd Gorllewinol.