Clefydheintus mewn bodau dynol yw milhaint (Saesneg: zoonosis) a achosir gan bathogen (megis bacteriwm, firws, parasit neu brion) sydd wedi neidio o rywogaeth arall (fertebrat fel arfer) i fod ddynol.[1][2] Yna, mae'r bod dynol heintiedig cyntaf yn trosglwyddo'r asiant heintus i o leiaf un bod dynol arall, sydd, yn ei dro, yn heintio eraill. Gair cyfansawdd yw 'milhaint': 'mil' (anifail) a 'haint', 'heintiau'.
Ymhlith y milheintiau mwyaf peryglus y mae clefyd y firws ebola a salmonellosis. Roedd HIV yn glefyd milheintiol a drosglwyddwyd i bobl yn gynnar yn yr 20g, er ei fod bellach wedi datblygu i fod yn glefyd dynol yn unig.[3][4][5]
Mae'r rhan fwyaf o'r mathau o ffliw sy'n heintio bodau dynol yn glefydau dynol, er bod llawer o fathau o ffliw adar a ffliw moch yn filheintiau; o bryd i'w gilydd mae'r firysau hyn yn ailgyfuno â mathau dynol o'r ffliw a gallant achosi pandemig fel ffliw Sbaen 1918 neu ffliw moch 2009.[6] Mae haint Taenia solium yn un o'r clefydau trofannol sydd wedi'u hesgeuluso sy'n peri pryder i feddygon a milfeddygon mewn rhanbarthau endemig.[7]
Gall milheintiau gael eu hachosi gan amrywiaeth o bathogenau clefydau megis firysau sy'n dod i'r amlwg, bacteria, ffyngau a pharasitiaid; o'r 1,415 o bathogenau y gwyddys eu bod yn heintio bodau dynol, roedd 61% yn filhaint.[8] Mae'r rhan fwyaf o glefydau dynol yn tarddu o rywogaethau eraill; fodd bynnag, dim ond clefydau sy'n cynnwys trosglwyddo nad yw'n ddynol i fodau dynol fel mater o drefn, megis y gynddaredd, sy'n cael eu hystyried yn filheintiau uniongyrchol.[9]
Ceir amryw o ddulliau trosglwyddo: weithiau mae'r afiechyd yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o rywogaethau nad ydynt yn ddynol i fodau dynol trwy'r aer (ee ffliw) neu drwy frathiad neu boer (ee y gynddaredd).[10] Mewn cyferbyniad, gall trosglwyddiad ddigwydd hefyd trwy rywogaeth ganolradd (y cyfeirir ato fel 'fector'), sy'n cario pathogen y clefyd heb fynd yn sâl. Pan fydd bodau dynol yn heintio rhywogaethau nad ydynt yn ddynol, fe'i gelwir yn 'filhaint gwrthdro' neu'n 'anthroponosis'.[11] Daw'r term o'r Groeg : ζῷον zoon "anifail" a νόσος nosos "salwch".
↑WHO. "Zoonoses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2015. Cyrchwyd 18 December 2014.
↑"AIDS as a zoonosis? Confusion over the origin of the virus and the origin of the epidemics". Journal of Medical Primatology33 (5–6): 220–226. October 2004. doi:10.1111/j.1600-0684.2004.00078.x. PMID15525322.
↑"Zoonosis". Medical Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 June 2013. Cyrchwyd 30 January 2013.